Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 2 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Lynne Neagle Gwyn R Price (yn lle Mick Antoniw) Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr David Bailey, BMA Cymru Wales Dr David Baker, The Dispensing Doctors’ Association Dr Paul Myers, Royal College of General Practitioners Lesley Griffiths, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Tony Jewell, Chief Medical Officer Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru Chris Martin, Hywel Dda Health Board Berwyn Owen, Betsi Cadwaladr University Bernadine Rees, Cwm Tâf Health Board |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw a Darren Millar. Roedd Gwyn R Price yn dirprwyo ar ran Mick Antoniw.
2. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan BMA Cymru Wales, Cymdeithas y Meddygon Fferyllol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
2.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am fap sy’n dangos lleoliadau safleoedd practisau fferyllol yng nghefn gwlad Cymru.
2.3 Cytunodd Dr Myers i rannu papur gyda’r Pwyllgor ynghylch yr astudiaeth beilot a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar y defnydd o Adolygiadau ar y Defnydd o Feddyginiaethau gan fferyllfeydd cymunedol.
3. Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc - Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.1 Atebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddog Meddygol a Dr Chris Jones gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch lleihau'r risg o strôc.
4. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan gynrychiolwyr y GIG
4.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
5. Papurau i'w nodi
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn tystiolaeth gyda chynrychiolwyr o Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban a Chymdeithas Fferyllol Frenhinol yr Alban mewn cynhadledd fideo ar 24 Tachwedd fel rhan o’r ymchwiliad i fferyllfeydd cymunedol.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn hyfforddiant anffurfiol ar graffu ar ddeddfwriaeth. Bwriedir cynnal y sesiwn ar 10 Tachwedd a bydd modd i aelodau o’r Pwyllgor ganiatáu i aelod o’u staff ddod i’r sesiwn.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.